#

Y Pwyllgor Deisebau | 15 Ionawr 2019
 Petitions Committee | 15 January 2019
 
 
 ,P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

 

P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai

Paul Ridd oedd ein brawd. Roedd ganddo anableddau dysgu difrifol a bu farw yn Ysbyty Treforys yn 2009. Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr amgylchiadau'n arwain at farwolaeth Paul, sef esgeulustod, diffyg hyfforddiant ac anwybodaeth yn ffactorau cyfrannol a arweiniodd at farwolaeth Paul.

Nid yw 1 o bob 4 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol erioed wedi cael hyfforddiant ar anabledd dysgu neu awtistiaeth. Mae hyn yn annerbyniol. Hoffai dwy ran o dair gael mwy o hyfforddiant, ac mae 1 o bob 3 yn credu bod diffyg arweinyddiaeth y llywodraeth yn cyfrannu at broblemau marwolaethau y gellir eu hosgoi. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd enfawr sy'n wynebu pobl ag awtistiaeth ac anabledd dysgu.

 

Y cefndir

Ym mis Ionawr 2014, fel rhan o'r Rhaglen Wella 1000 o Fywydau, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau penodol i wella gofal a thriniaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu yn yr ysbyty. Datblygwyd y 'Bwndel Gofal i Bobl ag Anabledd Dysgu mewn Ysbyty Cyffredinol Gosod' yn sgil marwolaeth Paul Ridd. Fe'i cynlluniwyd i helpu staff ysbytai i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael gwasanaeth teg pan fyddant yn mynd i'r ysbyty. Hefyd, ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Anabledd dysgu - Rhaglen gwella bywydau'.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n cynnal ymgynghoriad tan 18 Ionawr 2019 ar Gweithredu ar anabledd: hawl i fyw'n annibynnol - mae cwestiwn 7 yn nodi: " Rydym am i sector gofal cymdeithasol a gwasanaethau iechyd Cymru gefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol. Gan ystyried y Cynllun Gweithredu, sut gallwn gyflawni hyn yn well ar gyfer pobl anabl?"

Mae deddfwriaeth allweddol sy'n gofyn am i wasanaethau leihau anghydraddoldebau ataliadwy yn iechyd bobl ag anabledd dysgu yn cynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Deddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r ddeiseb yn galw ar i Lywodraeth Cymru wneud hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai. Casglodd 5,312 o lofnodion. Pan fydd deisebau ar wefan y Cynulliad yn casglu mwy na 5,000 o lofnodion, cânt eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd.

Cafodd deiseb debyg ei thrafod yn Senedd y DU ar 22 Hydref 2018. Roedd yn annog Llywodraeth y DU i atal marwolaethau y gellir eu hosgoi trwy wneud awtistiaeth a hyfforddiant anabledd dysgu yn orfodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mewn ymateb i'r ddeiseb, dywedodd Llywodraeth y DU: “We want all staff to receive the support, training and professional development they need to support people with learning disabilities and autism, in line with employers’ existing responsibilities”.

Ym mis Medi 2018, mewn datganiad ysgrifenedig yn ymateb i'r adolygiad o farwolaethau pobl anabledd dysgu, ymrwymodd Caroline Dinenage, Gweinidog Gofal y Llywodraeth, i gwblhau ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion ar gyfer hyfforddiant anabledd dysgu gorfodol ar gyfer holl staff iechyd a gofal Lloegr.  Nodir y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion ar gyfer hyfforddiant anabledd dysgu gorfodol i'r holl staff iechyd a gofal gael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2019.

Yn Lloegr, mae dyletswydd yn y canllawiau statudol yn Neddf Awtistiaeth 2009 ar i bob aelod o staff iechyd a gofal gael hyfforddiant awtistiaeth priodol. Mae Bil Awtistiaeth (Cymru), sydd yng Nghyfnod 1, yn Fil Aelod Cynulliad sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer hyfforddi staff mewn awtistiaeth; fe'i cyflwynwyd gan Paul Davies AC. Cynhelir y ddadl yng Nghyfnod 1 a'r bleidlais ar 16 Ionawr 2019. Os bydd y Bil yn mynd i Gyfnod 2, bydd modd cyflwyno gwelliannau; bydd y gwaith craffu yng Nghyfnod 2 yn digwydd yn fuan wedi hynny.